Sefydlwyd y Mudiad Sosialaidd Ffleminaidd (V-SB) gan bobol sy'n credu y dylai bywyd gwleidyddol Fflandrys fod yn fwy asgell-chwith ac yn fwy Ffleminaidd. Ni all y V-SB wahanu'r agweddau asgell chwith a Ffleminaidd. Dyna oedd y sefyllfa gan mlynedd yn ôl pan ymladdodd y Ffleminiaid am eu hawliau cymdeithasol a diwylliannol, a dyna yw'r sefyllfa heddiw, er bod hynny mewn cyd-destun gwahanol. Nod y V-SB yw creu cymdeithas sosialaidd gyda chyfleoedd, hawliau a dyletswyddau cyfartal i'w holl drigolion mewn Fflandrys annibynnol. A hynny yn rhydd o strwythurau gwrth-ddemocrataidd a chyfalafol, ond mewn cydweithrediad a solidariaeth gyda chenhedloedd a gwladwriaethau eraill sy'n caru rhyddid.
Fel mudiad sosialaidd, cred V-SB fod y drefn gyfalafol bresennol ond yn gwasanaethu buddiannau dosbarth uwch bychan ac nad yw'n cynnig dim i'r dosbarth gweithiol. Y cyfan y mae'r drefn yn ei olygu iddynt hwy yw bygythiad cyson i'w hamodau byw. Er mwyn datrys y problemau sy'n codi yn y meysydd cymdeithasol ac amgylcheddol cred y V-SB taw'r unig ateb yw gosod trefn gymdeithasol newydd yn ei lle. Bydd y drefn newydd yn un lle mae solidariaeth a phroses ddemocrataidd er mwyn penderfynu ynglŷn â chymdeithas ac economi yn egwyddorion sylfaenol. Bydd y drefn hon hefyd yn sefydlu ac yn atgyfnerthu sofraniaeth y bobol.
Cred V-SB fod Gwlad Belg yn greadigaeth er mwyn gwasanaethu y byd ariannol Belgaidd a byd-eang, ac er mwyn cyfyngu sofraniaeth a hunan-ddatblygiad y rhai sy'n byw yn ei thiriogaeth. Cred y V-SB y gall y newid tuag at strwythur sosialaidd ond digwydd gydag un llygad ar y cyd-destun cenedlaethol. Felly mae V-SB yn ymgyrraedd tuag at greu gwladwriaeth sosialaidd newydd yn cynnwys tiriogaeth bresennol Rhanbarth Fflandrys a Rhanbarth Prifddinas Brwsel.
O gofio'r hyn a ddywedwyd am bwysigrwydd sofraniaeth, bydd y V-SB yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i'w leihau neu ei dinistrio trwy greu strwythurau swpragenedlaethol annemocrataidd. Nid yw hyn yn golygu fod y V-SB yn credu fod Fflandrys annibynnol fel ynys bellennig ar wahân i bawb arall yn ymarferol; cred y V-SB fod cydweithrediad rhyngwladol yn ddymunol ac yn angenrheidiol, ac felly mae'n cefnogi cenhedloedd a mudiadau tramor sy'n arddel yr un amcanion.
O gofio hynny, mae'r V-SB yn gwrthwynebu unrhyw ffurf ar genedlaetholdeb Ffleminaidd sy'n gwrthwynebu pobl Walwnia, a mudiadau sydd ond yn ceisio annibyniaeth i Fflandrys fel modd o ddiddymu solidariaeth gyda'n cymdogion deheuol.
Ystyria'r V-SB bawb sy'n byw yn nhiriogaeth gwladwriaeth Fflandrys y dyfodol fel Ffleminiaid, heb unrhyw wahaniaethu ar sail tarddiad, rhywedd, crefydd, mamiaith, rhywioldeb a materion eraill dibwys. O fewn i wladwriaeth Fflandrys sicrheir hawliau diwylliannol lleiafriroedd. Ond nid all hyn arwain at gefnogi creu a chynnal cymunedau cyfochrog sydd â'r gallu i ddadfeilio undod cymdeithasol